Beth yw Salon Aberystwyth?

Cynefin ar gyfer trafodaethau agored yw Salon Aberystwyth. Yn rhy aml, mae trafodaeth gwleidyddol yn gul ac yn osgoi craidd problemau cymdeithasol. Bwriad Salon Aberystwyth yw cynnal dadleuon cyhoeddus ar bynciau pwysig, rhai sy’n cymeryd ein bod ni oll yn gallu ymdopi efo syniadau cymleth ac egwyddorion haniaethol.

Fe fydd rhai o’r trafodaethau yn gyfle i drafod materion cyfoes, ac eraill yn ymdrin â themau, fel celfyddyd, athroniaeth, gwyddoniaeth a rheswm.

Yn y pendraw, bwriad Salon Aberystwyth yw cyfrannu at ymdrech i wthio’r demos yn ôl i ganol democratiaeth ac i amddiffyn etifeddiaeth yr Ymoleuad. Uchelgeisol, meddwch chi? Yn sicir.